SL(6)557 – Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau AC”) sy’n llywodraethu cyrff rheoli adeiladu yn y sector preifat. Diben y newid hwn yw cysoni is-ddeddfwriaeth â newidiadau a wnaed i Ddeddf Adeiladu 1984 gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.
Mae'r Rheoliadau hyn yn:
(i) dirymu mwyafrif darpariaethau’r Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“Rheoliadau 2010”);
(ii) disodli a diweddaru darpariaethau yn Rheoliadau 2010 i'w diweddaru ar gyfer y gyfundrefn rheoleiddio rheoli adeiladu newydd yng Nghymru; ac yn
(iii) gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau eraill.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn nhestun Saesneg y Rheoliadau, mae problem gyda’r fformadu yn y llinell olaf ond un ar dudalen 8 ar ôl “52(1)…” sydd wedi arwain at ddarpariaethau a ddylai ddilyn yn union ar ôl adran 52(1) yn peidio ag ymddangos yn y man cywir. Yn hytrach na rhestru’r is-adrannau perthnasol o adran 52 yn ddilyniannol ar ôl 52(1), mae’r darpariaethau yn ymddangos yn y llinell gyntaf ar dudalen 9 a restrir fel is-adrannau i adran 53B (gan mai dyna’r adran olaf sy’n ymddangos ar ddiwedd tudalen 8). Effaith hyn yw bod yr holl gyfeiriadau a restrir yn y llinell gyntaf ar dudalen 9 yn anghywir.
Yn ychwanegol at hyn, mae’r pwerau galluogi y dibynnir arnynt yn adran 52A hefyd wedi’u hepgor, ac mae’r testun Cymraeg yn nodi’r rhain yn gywir fel adran 52A(1), (2) a (4).
2. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn Atodlen 1, mae Ffurflen 1(C) a Ffurflen 4(C) ill dwy yn cynnwys paragraff (2) sy’n cyfeirio at hunaniaeth y cymeradwywr rheoli adeiladu cofrestredig. Fodd bynnag, yn y ddau achos mae’r troednodyn i’r paragraff hwnnw (wedi’i rifo yn droednodyn (3)) yn darparu mai’r wybodaeth sydd ei hangen yw manylion cyswllt y person sy’n bwriadu gwneud y gwaith. Fel y cyfryw, mae'n ymddangos bod cyfeiriadau'r troednodiadau yn anghywir yn y ddau achos.
Yn yr un modd, yn Ffurflenni 1(C) a 4(C) yn y drefn honno defnyddir y troednodyn â’r rhif (6) (sy’n diffinio “buddiant proffesiynol neu ariannol”) yn anghywir pan mai troednodyn (5) (sy’n darparu mai enw’r cymeradwywr rheoli adeiladu cofrestredig sy’n ofynnol) ddylai ddigwydd.
Gallai'r gwallau hyn achosi dryswch i'r darllenydd, gan arwain o bosibl at roi gwybodaeth anghywir ar y ffurflen berthnasol.
3. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae geiriau agoriadol rheoliad 5(12) yn cyfeirio’n benodol at reoliad 7A(3) o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012.
Fodd bynnag, mae'n ymddangos y dylai'r geiriau agoriadol gyfeirio yn hytrach at reoliad 7A yn fwy cyffredinol. Mae rheoliad 5(12)(a) yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y dylid dehongli’r term “local authority”, ond dim ond yn rheoliad 7A(2)(b) y mae’r term hwnnw’n ymddangos – nid yw’n ymddangos ym mharagraff (3).
4. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.
Ym mharagraff 9 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau, o gyd-destun y ddarpariaeth mae'n ymddangos y dylai’r gair “apelydd" (h.y. appellant) yn y bedwaredd linell fod yn “cymeradwywr” i gyfateb i'r gair “approver” yn y testun Saesneg.
Rhinweddau: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mae’r ymadrodd ‘gwaith adeiladu risg uwch’ (“HRBW”) yn cael ei ddefnyddio sawl gwaith ar draws y gyfres o ffurflenni yn yr Atodlenni i’r Rheoliadau. Gofynnir i’r sawl sy’n llenwi’r ffurflen berthnasol gadarnhau mewn mannau amrywiol, ymhlith pethau eraill, nad yw unrhyw ran o’r gwaith y mae’r hysbysiad perthnasol yn ymwneud ag ef yn cyfateb i waith adeiladu risg uwch.
Er mwyn gwella hygyrchedd yr offeryn, efallai y bydd Llywodraeth Cymru am ystyried a ddylai pob ffurflen sy’n cynnwys y term ‘gwaith adeiladu risg uwch’ gynnwys troednodyn sy’n cyfeirio at y diffiniad cyfreithiol perthnasol fel y mae’n gymwys yng Nghymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 6 Ionawr 2025 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.